Agweddau ar y Gwasanaeth

Agweddau ar y Gwasanaeth

Mae nifer o opsiynau wrth gynllunio gwasanaeth coffa ystyrlon a phersonol i gofio anwylyn.  Rydym yma i’ch cynghori a’ch arwain trwy’r trefniadau.

Cerddoriaeth ac Emynau

Mae’r dewis o gerddoriaeth neu emynau mewn angladd yn gallu adlewyrchu bywyd unigolyn a’i goffáu’n addas, gan roi cyffyrddiad personol. Yn aml, ceir caneuon arwyddocaol sy’n gysylltiedig ag anwylyn a gall y dewis fod yn un traddodiadol neu gyfoes, ysgafn neu weithiau ddoniol. Gallech hefyd ystyried cerddoriaeth fyw, p’run bynnag sy’n gweddu orau i’r coffa am yr unigolyn.

Byddwn yn trafod ac yn cynghori ynghylch eich dewis o gerddoriaeth ar gyfer y gwasanaeth. Bydd y rhan fwyaf o amlosgfeydd yn darparu organydd a system y gallwch ei defnyddio i chwarae’r gerddoriaeth o’ch dewis chi.  Mewn rhai eglwysi, efallai y bydd cyfyngiadau o ran cerddoriaeth gyfoes ac, efallai, mai dewisiadau traddodiadol ac emynau’n unig a ganiateir.

Mae system yn yr amlosgfa o’r enw Obitus. Gyda’r system hon, mae modd i deuluoedd yr ymadawedig ddewis cerddoriaeth ac emynau a llwytho lluniau y gellir eu chwarae a’u harddangos yn ystod y gwasanaeth. Hon yw’r system lle gall teulu a ffrindiau, nad ydyn nhw’n gallu bod yn y gwasanaeth, weld y gwasanaeth ar-lein. Mae modd, hefyd, ddewis ffrydio hwn yn ystod y gwasanaeth yn unig (yn fyw), cael y gwasanaeth am 28 diwrnod neu gael cofnodi’r gwasanaeth ar gofrodd. Gallwn eich tywys trwy’r holl opsiynau sydd ar gael i chi trwy’r system Obitus, gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y system, yma:

Cerddi, Areithiau a Darlleniadau

Yn aml mewn angladdau ceir cyfraniad personol gan bobl sy’n bresennol fel ffordd o ddod â choffa am fywyd yr unigolyn i feddyliau’r gynulleidfa. Efallai y byddai cyfeillion neu berthnasau’n dymuno talu teyrnged ar ffurf darlleniad, cerdd, araith neu ddewis o eiriau.

Hysbysiadau o Farwolaeth

Mae ysgrif goffa’n ffordd draddodiadol o gyhoeddi newyddion am farwolaeth. Fel arfer, bydd yn cynnwys gwybodaeth am fywyd yr unigolyn ac yn rhoi manylion yr angladd megis amser, dyddiad a lleoliad. Pe byddech yn dymuno, byddwn yn eich helpu i lunio a chyhoeddi rhybuddion o farwolaeth a chynghori ar y cynnwys, yr hyd a’r costau sydd ynghlwm wrthynt.

Fel arfer bydd y manylion a ganlyn mewn hysbysiadau o farwolaeth:

  • Enw’r unigolyn (gyda’r cyfenw’n gyntaf, fel arfer)
  • Manylion lle a phryd y bu farw
  • Gwybodaeth gofiannol gan gynnwys lle’r oedd yn byw, enw unrhyw gymar neu ŵr/gwraig a manylion perthnasau eraill
  • Manylion y trefniadau angladdol
  • Cyfarwyddyd ynghylch a dderbynnir blodau a manylion unrhyw achos enwebedig ar gyfer rhoddion

Blodau’r Angladd

Mae blodau’n ffordd draddodiadol o dalu teyrnged i’r ymadawedig neu cânt eu hanfon yn fynegiant o gydymdeimlad at deulu a chyfeillion.  Gall y blodau a ddewisir helpu i greu gwasanaeth unigryw a phersonoledig trwy adlewyrchu agweddau ar bersonoliaeth, diddordebau a dewisiadau’r ymadawedig.   Mae amrywiaeth eang ar gael o sbrigau, torchau a thuswon i’r arch, wedi’u trefnu’n siâp arbennig a gallant fod yn eitem neu’n llythrennau.

Gallwn eich cynorthwyo i ddewis ac archebu teyrnged flodeuol, addas gan ein cyflenwyr dibynadwy a chofnodi a chasglu’r negeseuon o gydymdeimlad a dderbyniwyd.

Rhoddion Elusennol

Efallai y byddwch yn penderfynu trefnu i gasglu rhoddion yn y gwasanaeth. Fel arfer, gofynnir am roddion yn lle blodau a chânt eu casglu at achos arwyddocaol i fywyd yr unigolyn, er enghraifft elusen yr oedd yn ei chefnogi neu gronfa sy’n gysylltiedig â chlefyd neu salwch yr oedd, o bosib, yn dioddef ganddo.

Mae gennym brofiad helaeth o reoli’r rhoddion a roddir i’n cleientiaid er cof am eu hanwyliaid ac rydym yn dilyn gweithdrefnau llym wrth gofnodi, rheoli a dosbarthu rhoddion o’r fath.

Yn ystod y gwasanaeth, bydd y gweinidog / swyddog yn cyhoeddi’r elusen a ddewiswyd ar gyfer rhoddion a lleoliad y blwch rhoddion. Sylwch y bydd unrhyw arian parod a roddir yn rhodd yn y blwch yn cael ei nodi fel cofnod o arian parod, heb unrhyw enw yn gysylltiedig â swm. Pe byddech yn dymuno rhoi rhodd bersonol, rhowch arian parod mewn amlen wedi’i farcio’n glir yn nodi’ch enw a’ch rhif cyswllt. Byddwn hefyd yn ychwanegu unrhyw roddion a dderbynnir trwy’r post neu drwy drosglwyddiad BACS. Bydd unrhyw gardiau cydymdeimlad a dderbynnir yn cael eu hagor, unrhyw rodd yn cael ei dynnu allan ac enwau’n cael eu nodi. Yna bydd y cardiau’n cael eu hanfon ymlaen at y teulu cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd anfon atom unrhyw roddion yr ydych wedi’u derbyn yn bersonol gartref pe byddech yn dymuno iddo gael ei gynnwys yng nghyfrifiad terfynol y rhoddion. Yna bydd y cyfrif rhoddion ar gyfer yr ymadawedig yn aros ar agor am fis.

Ar ddiwedd y mis, bydd y cyfrif yn cael ei gau, arian parod / sieciau’n cael eu bancio, a’r datganiad rhoddion yn cael ei anfon atoch. Yna gellwch ein hethol fel eich cynrychiolwyr i ddosbarthu’r rhoddion yn unol â’r cyfarwyddiadau a dderbyniwyd, neu gallwn anfon y cyfanswm atoch er mwyn i chi ei anfon ymlaen at yr elusen.

Sylwch fod yr holl roddion a gasglwyd gennym yn cael eu hadneuo i Gyfrifon Rhoddion ar wahân:

Yn daladwy i: Cyfrif Rhoddion Jones Brothers Benllech

Cod Didoli: 20-35-47

Rhif Cyfrif: 13050505

Fel cyfeirnod ar gyfer eich rhodd: defnyddiwch enw’r ymadawedig

Bydd yr holl roddion a gesglir gennym ar y diwrnod yn cael eu hadneuo i’r Cyfrifon Rhoddion ar wahân. Archwilir y cyfrif rhoddion hwn gan ein gwasanaeth cyfrifeg.

Taflenni Trefn Gwasanaeth

Rydym yn cynhyrchu taflenni trefn gwasanaeth y mae modd eu personoli trwy gynnwys llun yr unigolyn a gwybodaeth amdano yn ogystal â manylion y gwasanaeth, er enghraifft dewisiadau o emynau neu ddarlleniadau. Efallai y byddech yn dymuno trosglwyddo copïau i’r rhai hynny nad oedd yn gallu bod yno a chadw copi fel cofrodd.

Pan Fo Rhywun yn Marw


Yn ystod cyfnod anodd iawn, gall deall y camau y mae’n angenrheidiol eu cymryd wedi profedigaeth fod yn llethol.

CYNLLUNIO'R GWASANAETH


Mae sawl opsiwn gwahanol wrth drefnu angladd a fydd yn gymorth i greu coffâd personol ac addas.

 

costau angladd


Mae gennym grynodeb clir o holl gostau gwasanaethau Jones Brothers i’ch helpu i gynllunio gwasanaeth angladd eich anwyliaid.

MANYLION CYSWLLT

Glanrafon, Benllech, Ynys Môn, LL74 8UF
Ffôn: 01248 853032 & 01248 853682

MANYLION CYSWLLT

R Bryn Jones & Lynda J. Jones
Cyfarwyddwyr Angladdau – Gwasanaeth 24 awr

Hawlfraint Jones Brothers 2021 | Dylunio KT