Polar
Jones Brothers Cyfarwyddwyr Angladdau Benllech
Rhoi gofal a gwasanaeth eithriadol i gleientiaid a'u teuluoedd

Jones Brothers Cyfarwyddwyr Angladdau Benllech


Sefydlwyd Jones Brothers Benllech Builders and Funeral Directors yn y 1950au gan Sam ac Arthur Jones.  Cymerodd Bryn drosodd fusnes y teulu yn 1983 gan gadw’r enw Jones Brothers Benllech.  Mae gwraig Bryn, Lynda, ei fab Carwyn a’i ferch Katy yn gweithio gyda Bryn i roi gofal a gwasanaeth eithriadol i gleientiaid a’u teuluoedd.

Mae Jones Brothers Benllech yn gyfarwyddwyr angladdau teuluol, dibynadwy sydd wedi hen ennill eu plwyf ac yn gwasanaethu cymunedau Môn.  Rydym yn cynnig gwasanaeth gofalgar a thosturiol, gan eich arwain trwy’r opsiynau i gofio’ch anwyliaid yn y ffordd fwyaf priodol i anrhydeddu’r coffa amdanynt.

Rydym wedi’n cymeradwyo gan y crwner. Gallwn fynd i bob rhan o Fôn os bydd gofyn ac rydym yn gwasanaethu cymunedau lleol Brynrefail, Bodafon, Dulas, Maenaddwyn, Brynteg, Marian-glas, Moelfre, Llanallgo, Llanbedrgoch, Benllech, Traeth Coch, Pentraeth, Rhoscefnhir a’r ardal gyfagos. Gallwn ddiwallu anghenion angladdau Cristnogol,

Pan Fo Rhywun yn Marw


Yn ystod cyfnod anodd iawn, gall deall y camau y mae’n angenrheidiol eu cymryd wedi profedigaeth fod yn llethol.

CYNLLUNIO'R GWASANAETH


Mae sawl opsiwn gwahanol wrth drefnu angladd a fydd yn gymorth i greu coffâd personol ac addas.

 

costau angladd


Mae gennym grynodeb clir o holl gostau gwasanaethau Jones Brothers i’ch helpu i gynllunio gwasanaeth angladd eich anwyliaid.

MANYLION CYSWLLT

Glanrafon, Benllech, Ynys Môn, LL74 8UF
Ffôn: 01248 853032 & 01248 853682

MANYLION CYSWLLT

R Bryn Jones & Lynda J. Jones
Cyfarwyddwyr Angladdau – Gwasanaeth 24 awr

Hawlfraint Jones Brothers 2021 | Dylunio KT