Cynllunio’r Gwasanaethau
Mae sawl opsiwn gwahanol wrth drefnu angladd a fydd yn gymorth i greu coffâd personol ac addas. Rydym yn darparu ar gyfer angladdau crefyddol, digrefydd, syml ac ysbrydol bwrpasol ac rydym yma i drefnu, eich cynghori a’ch cynnal trwy gydol y trefniadau a chysylltu â chwmnïau a phobl eraill i sicrhau bod y diwrnod yn mynd rhagddo’n ddidrafferth.
Bydd angladd syml yn cynnwys symud yr ymadawedig i gapel gorffwys, arch ag iddi haenen o ffoil, agor a chau bedd neu amlosgiad, darparu hers i’r angladd neu’r amlosgfa, gwasanaethau gweinidog gweinyddu a chyfarwyddwr angladdau a’i staff.
Claddu neu Amlosgi
CLADDU
Os byddwch yn penderfynu claddu, bydd gofyn i chi brynu bedd neu ailagor bedd sydd gennych eisoes, er enghraifft yn rhan o fedd teulu.
Os yw’n bosib, bydd arnom angen y gweithredoedd sy’n gysylltiedig ag unrhyw fedd sydd eisoes wedi’i brynu. Gallwn eich helpu i ganfod y rhain os nad ydynt gennych a gallwn weld a oes lle ar gyfer rhagor o gladdedigaethau.
Os oes bedd yno eisoes, gallwn drefnu i’w ailagor a symud unrhyw gofebion cyn yr angladd. Efallai y byddech yn dymuno carreg fedd newydd neu ychwanegu arysgrif i un sydd eisoes yno.
Claddedigaeth Syml
Rhoddir ein gwasanaethau, arweiniad, cefnogaeth a chyngor proffesiynol. Cwblheir dogfennau angenrheidiol a chyflawnir trefniadau yn unol â’ch cyfarwyddiadau. Cesglir o fewn deg milltir yn ystod oriau gwaith, a gofelir am yr ymadawedig hyd at ddeng niwrnod cyn yr angladd ac yn ystod yr angladd.
Defnyddir cerbyd ambiwlans preifat i symud y corff a hers ar ddiwrnod yr angladd. Darperir arch effaith derw â haenen o ffoil, maint safonol “Maes Llydan” wedi’i gosod mewn pres neu nicel i’ch dewis chi. Bydd yr arch wedi’i leinio â ffril ac amdo i gyd-fynd, gyda chwe daliwr torch, chwe dolen a phlât enw wedi’i ysgythru. Eir yn uniongyrchol i’r fynwent mewn hers a chleddir mewn bedd i un, heb ei leinio, (os oes craig yn y fynwent, codir tâl ychwanegol), a marciwr bedd gyda phlât wedi’i ysgythru.
Os yw’ch gofynion yn wahanol i’r uchod, byddwn yn darparu rhestr brisiau amcangyfrifedig sy’n cynnwys llawer o’r pethau ychwanegol yr hoffech, o bosibl, eu cael.
Sylwch fod ffïoedd mynwentydd yn amrywio llawer o ardal i ardal, ac o fynwent i fynwent.
Gellir darparu mathau eraill o eirch.
Nodyn pwysig
Telir ffïoedd gennym ar eich rhan, megis ffioedd a godir gan amlosgfa, eglwys, capel, mynwent, gweinidogion gweinyddu, meddygon ac am hysbysiad coffa, neu unrhyw gost arall sy’n daladwy ar eich rhan.
Mae ffïoedd mynwentydd yn amrywio gan ddibynnu ar leoliad y fynwent a ddefnyddir a phreswyliaeth. Caiff y rhain eu gosod gan yr awdurdod â gofal.
GWASANAETHAU CLADDU UNIONGYRCHOL
Math newydd o wasanaeth yw hwn y gellir ei gynnig os oes angen.
Dim Gwasanaeth a neb yn bresennol
Rhoddir ein gwasanaethau, arweiniad, cefnogaeth a chyngor proffesiynol. Cwblheir dogfennau angenrheidiol; a chyflawnir trefniadau yn unol â’ch cyfarwyddiadau. Cesglir o fewn deg milltir yn ystod oriau gwaith 09:00 -16: 00, a gofelir am yr ymadawedig hyd at saith niwrnod cyn yr angladd ac yn ystod yr angladd.
Defnyddir cerbyd ambiwlans preifat ar gyfer symud y corff. Darperir arch effaith derw â haenen o ffoil o faint safonol wedi’i gosod allan mewn nicel, wedi’i leinio ag amdo gwyn gyda phedwar daliwr torch, pedair dolen a phlât enw wedi’i ysgythru. Eir yn uniongyrchol i’r fynwent mewn ambiwlans preifat. Bedd i un a marciwr beddi wedi’i ysgythru.
AMLOSGI
Amlosgi yw’r dewis arall yn lle claddu. Efallai y byddech yn dymuno cynnal y gwasanaeth yn yr Amlosgfa neu os byddai’n well gennych, gellir cynnal y gwasanaeth yn rhywle arall, mewn eglwys er enghraifft, ac yna gael gwasanaeth byrrach (y traddodi) yn yr Amlosgfa.
Cyfyngir ar yr hyn y gellir ei amlosgi gyda’r unigolyn sydd wedi marw. Caiff rhai deunyddiau, metalau er enghraifft, eu gwahardd. Gallwn eich cynghori ynghylch trefnu i eitemau penodol gael eu cadw gyda’r unigolyn.
Bydd angen i chi benderfynu ar yr orweddfan derfynol ar gyfer y llwch. Efallai y byddwch yn dymuno eu cadw mewn wrn, eu claddu neu eu gwasgaru mewn lleoliad arwyddocaol. Nid oes rhaid i chi benderfynu ar hyn yn syth.
Yn ogystal ag amlosgiadau pwrpasol, trowch at ein hesiamplau o angladdau amlosgi y gallwn eu cynnig:
ANGLADD SYML YN AMLOSGFA BANGOR
Rhoddir ein gwasanaethau, arweiniad, cefnogaeth a chyngor proffesiynol. Cwblheir dogfennau angenrheidiol a chyflawnir trefniadau yn unol â’ch cyfarwyddiadau. Cesglir o fewn deg milltir yn ystod oriau gwaith, a gofelir am yr ymadawedig hyd at ddeng diwrnod cyn yr angladd ac yn ystod yr angladd.
Defnyddir cerbyd ambiwlans preifat i symud y corff a hers ar ddiwrnod yr angladd. Darperir arch effaith derw â haenen o ffoil, maint safonol “Maes Llydan” wedi’i gosod mewn pres neu nicel i’ch dewis chi. Bydd yr arch wedi’i leinio â ffril ac amdo i gyd-fynd, gyda chwe daliwr torch, chwe dolen a phlât enw wedi’i ysgythru. Eir yn uniongyrchol i’r fynwent mewn hers.
Os yw’ch gofynion yn wahanol i’r uchod, byddwn yn cyflwyno rhestr brisiau amcangyfrifedig sy’n cynnwys llawer o’r pethau ychwanegol yr ydych wedi gofyn amdanynt.
Telir ffïoedd gennym ar eich rhan, megis ffioedd a godir gan amlosgfa, eglwys, capel, mynwent, gweinidogion gweinyddu, meddygon ac am hysbysiad coffa, blodau neu unrhyw gost arall sy’n daladwy ar eich rhan. Codir ffi os bydd arnoch angen taflenni gwasanaeth, casged ar gyfer claddu’r llwch, tiwb gwasgaru, wrn yn gofrodd.
Mae ffioedd amlosgi’n amrywio gan ddibynnu ar leoliad yr amlosgfa a ddefnyddir, preswyliaeth, adeg o’r dydd neu p’run a gynhelir gwasanaeth ar benwythnos neu a oes tystysgrif ar gyfer claddu llwch dramor neu fynd â llwch dramor a defnyddio organ pan ganiateir hynny.
GWASANAETHAU AMLOSGI UNIONGYRCHOL YN AMLOSGFA BANGOR
**DIM GWASANAETH A NEB YN BRESENNOL
Gellir trefnu angladdau lle nad oes neb yn bresennol hefyd. Fel arfer, cynhelir y rhain yn yr amlosgfa sydd agosaf i ni, sef amlosgfa Bangor. Fodd bynnag, mae modd defnyddio amlosgfa Bae Colwyn. Yr amseroedd a gedwir ar gyfer angladd a neb yn bresennol yw 08:15 ac 8:30 (gall hwn newid yn ddirybudd).
Rhoddir ein gwasanaethau, arweiniad, cefnogaeth a chyngor proffesiynol. Cwblheir dogfennau angenrheidiol; a chyflawnia trefniadau yn unol â’ch cyfarwyddiadau. Cesglir o fewn 10 milltir yn ystod oriau gwaith 09:00 -16: 00, a gofalu am yr ymadawedig hyd at saith niwrnod cyn yr angladd ac yn ystod yr angladd.
Defnyddir cerbyd ambiwlans preifat ar gyfer symud y corff. Darperir arch effaith derw â haenen o ffoil o faint safonol wedi’i gosod allan mewn nicel, wedi’i leinio ag amdo gwyn gyda chwe daliwr torch, chwe dolen a phlât enw wedi’i ysgythru. Mynd yn uniongyrchol i’r fynwent mewn ambiwlans preifat.
Os bydd y llwch yn cael ei ddychwelyd, gallai’r person sy’n gwneud cais am yr amlosgiad godi’r llwch o swyddfa’r Amlosgfa yn ystod y diwrnod gwaith nesaf.
OES ANGEN HELP ARNOCH I YMESTYN TALIADAU ANGLADD
Dilynwch y ddolen hon am help gydag ymestyn taliadau. Cliciwch Yma
Rydym yn cyflenwi ystod eang o eirch a chasgedau ar gyfer eu claddu neu eu hamlosgi – o’r symlaf i’r gwirioneddol gywrain. O eirch traddodiadol o goed i’r rheiny â dyluniadau ac wedi’u personoli, i amrywiaethau gwiail ac eco-ystyriol. Gallwn eich helpu i benderfynu ar yr un fyddai fwyaf addas.
Rydym hefyd yn cyflenwi ystod o wrnau mewn amrywiol ddyluniadau, maint a deunydd fydd yn gweddu orau i’ch penderfyniad ynghylch gorweddfan derfynol y llwch. Rydym wrth law i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a fyddo gennych a’ch helpu i wneud y dewis.
Gallwch weld ystod lawn o gynhyrchion ein cyflenwyr trwy droi at eu gwefan:
Halliday Funeral Supplies – Catalog Eirch | Halliday Funeral Supplies (hallidayltd.co.uk)
Colourful Coffins – Mathau o Eirch | Eirch Lliwgar a Phersonol gan Colorful Coffins ® | Ffôn: 01865 779172
E-eirch – ’’’Eirch Bambw | Eirch Bambw wedi’u saernïon hardd â llaw | E-eirch – Wedi’u saernïo’n hardd â llaw, Eirch syn gynaliadwy ac yn amgylcheddol-gyfeillgar | Ecoffins <https://www.ecoffins.co.uk/collections/bamboo>
Wrnau â chariad – ’’Wrnau’n gofroddion wedi’u saernïo’n hardd â llaw ar gyfer cofebion angladd – UrnsWithLove
Cludwyr yr Arch
Efallai y byddech yn dewis teulu neu berthnasau i gludo’r arch yn ystod y gwasanaeth. Er y gallai hyn godi ofn ar y rhai nad ydynt wedi gwneud hyn o’r blaen, rydym wrth law i roi cyfarwyddyd, cyngor, i dawelu meddwl ac i baratoi.
Fel arall, byddwn yn darparu cludwyr pe byddech yn dymuno i ni wneud hynny.
Cludiant
Rydym yn rhoi dewis o gludiant i’r gwasanaeth ac oddi yno gan gynnwys limwsîn a’r hers ceffyl draddodiadol. Ar y diwrnod byddwn, fel arfer, yn cludo o gartref y teulu i leoliad y gwasanaeth ac yna oddi yno wedi’r gwasanaeth.
Byddwn yn trafod eich gofynion a’r hyn sydd ar eich meddwl â chi ac yn rhoi gwybod i chi am ddyddiadau a chostau.
Pan Fo Rhywun yn Marw
Yn ystod cyfnod anodd iawn, gall deall y camau y mae’n angenrheidiol eu cymryd wedi profedigaeth fod yn llethol.
CYNLLUNIO'R GWASANAETH
Mae sawl opsiwn gwahanol wrth drefnu angladd a fydd yn gymorth i greu coffâd personol ac addas.
costau angladd
Mae gennym grynodeb clir o holl gostau gwasanaethau Jones Brothers i’ch helpu i gynllunio gwasanaeth angladd eich anwyliaid.
MANYLION CYSWLLT
Glanrafon, Benllech, Ynys Môn, LL74 8UF
Ffôn: 01248 853032 & 01248 853682
MANYLION CYSWLLT
R Bryn Jones & Lynda J. Jones
Cyfarwyddwyr Angladdau – Gwasanaeth 24 awr
Hawlfraint Jones Brothers 2021 | Dylunio KT