Grave Maintenance and Visits
Mae Jones Brothers Benllech yn deall bod rhai teuluoedd yn ei chael yn anodd gofalu am feddi teuluol ar ddyddiadau penodol, pen-blwyddi, digwyddiadau crefyddol arwyddocaol ac achlysuron ystyrlon eraill. O gofio hyn, rydym wedi ymestyn ein gwasanaethau a dechrau adnewyddu beddi. Gallwn gynnig y gwasanaethau a ganlyn: cymorth neu gyngor ar yr hyn y gellir ei wneud i dacluso carreg fedd neu blinth sydd â geiriau wedi dechrau pylu.
Yn unol â’ch cyfarwyddiadau, bydd Jones Brothers Benllech, yn y lle cyntaf, yn mynd at y bedd i weld pa mor sefydlog ydyw a beth yw cyflwr y garreg ei hun ac unrhyw beth sy’n ei hamgylchynu. Mewn rhai mynwentydd dim ond cerrig beddi a ganiateir, felly, byddwn yn gweld a oes angen torri’r gwair a’i dacluso. Byddir yn anfon adroddiad ysgrifenedig a lluniau digidol at y teulu ac, os bydd rhai, unrhyw argymhellion. Gall Jones Brothers Benllech drefnu i gynnal a chadw’r bedd a’i gadw’n daclus. Os dymunwch, bydd modd danfon blodau ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Os oes angen atgyweirio’r garreg neu’r plinth blodau, gall Jones Brothers Benllech drefnu i lanhau’r llythrennau ar y garreg a’u hailbeintio. Dim ond crefftwyr ag enw da y bydd Jones Brothers Benllech yn eu defnyddio i wneud unrhyw waith neu i atgyweirio. Mae’n bosibl y bydd gwaith ailbeintio arysgrifiadau’n cymryd amser, oherwydd y tywydd. Ni fyddir yn ailbeintio oni bydd yn braf, a hynny yn y gwanwyn neu’r haf.
Bydd Jones Brothers Benllech yn mynd i bob rhan o Ynys Môn.
- Edrych ar y bedd, y garreg a’r plinthiau blodau.
- Rhoi gwybod i chi’r hyn a welir.
- Trefnu i gynnal a chadw’r bedd a danfon blodau os oes gofyn, a hynny mor aml ag y dymunwch.
WHEN SOMEONE DIES
During a most difficult time, it can be overwhelming to understand the steps necessary to take after a bereavement.
PLANNING THE SERVICE
There are many different options when arranging a funeral service that will help create a personal and fitting memorial.
funeral expenses
We have a clear overview of all the costs for Jones Brothers services, to help you plan your loved ones funeral service.
CONTACT DETAILS
Glanrafon, Benllech, Anglesey, LL74 8UF
Tel: 01248 853032 & 01248 853682
CONTACT DETAILS
R Bryn Jones & Lynda J. Jones
Funeral Directors - 24 hour service
Copyright Jones Brothers 2021 | Design KT