Telerau ac Amodau

Telerau Busnes

Os byddwch yn defnyddio cyfreithiwr, rhaid i chi dynnu ei sylw at y rhain.

Rydym yn aelodau o NAFD ac yn cydymffurfio â’i god ymarfer, y mae copi ohono ar gael ar gais. Ein nod yw gweithredu’n broffesiynol a rhoi i chi wasanaeth cwrtais, sensitif ac urddasol. Nid oes modd cadarnhau trefniadau terfynol hyd oni bydd yr Archwiliwr Meddygol neu’r Crwner wedi gorffen eu hymholiadau.

Amcangyfrifon a Threuliau

Mae’r Amcangyfrif yn nodi’r gwasanaeth yr ydym yn cytuno i’w roi. Arwydd o’r taliadau sy’n debygol o gael eu codi yw’r amcangyfrif, a hynny ar sail y wybodaeth a’r manylion sy’n hysbys ar y dyddiad y rhoddir yr amcangyfrif. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i fod yn gywir, gallai taliadau gael eu newid pan fydd trydydd parti yn cyflwyno’u cyfraddau.

Efallai na wyddom faint y mae y mae trydydd partïon yn ei godi cyn yr angladd; ond ceisiwn roi i chi’r amcangyfrif gorau. Dangosir union swm y taliadau yn y cyfrif terfynol. Gallai trydydd parti gynnwys Hysbysiad yn y wasg, ffïoedd mynwentydd, ffïoedd amlosgi, gwerthwyr blodau, deunydd printiedig.

Bydd angen eich cadarnhad ysgrifenedig os bydd eich cyfarwyddiadau’n newid. Gellir codi tâl ychwanegol i dalu am unrhyw gostau.

Talu

Rhaid talu’r cyfrif cyn pen 28 diwrnod oni chytunwn yn ysgrifenedig fel arall.  Os byddwch yn methu talu’n llawn o fewn yr amser penodol, efallai y byddwn yn codi llog arnoch: Ar gyfradd 5% yn uwch na chyfradd Sylfaen y Banc, a gyfrifir yn ddyddiol o ddyddiad y mae’r cyfrif yn ddyledus tan iddo gael ei dalu.

Caiff ei gydgrynhoi ddiwrnod cyntaf pob mis a chyn unrhyw Ddyfarniad ac ar ei ôl, (oni bai bod Llys yn gorchymyn fel arall).

Hawliad i’r Adran Gwaith a Phensiynau, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni os ydych yn bwriadu gwneud hawliad. Os llwyddir gyda hawliad, ar gyfartaledd, 50% o’r anfoneb neu ran  ohoni y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n ei dalu. Cyfrifoldeb y teuluoedd yw talu’r gweddill.

Mae modd rhoi i chi fanylion cynlluniau benthyg Funeral Safe os oes angen.

Indemniad

Pe byddech yn torri unrhyw un o’ch rhwymedigaethau dan y telerau hyn, rhaid i chi ein hindemnio yn llawn a sicrhau nad ni fydd yn talu’r holl dreuliau a rhwymedigaethau y gallwn eu hwynebu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan gynnwys costau cyllido a chynnwys costau cyfreithiol ar sail indemniad llwyr).

Golyga hyn eich bod yn atebol i ni am golledion yr ydym yn eu hwynebu oherwydd nad ydych yn cydymffurfio â’r Telerau hyn. Er enghraifft, byddwn yn codi ffi weinyddu arnoch os byddwn yn derbyn siec gennych nad yw’n cael ei hanrhydeddu wedi hynny neu os byddwn yn ysgrifennu atoch i’ch atgoffa bod cyfrif yn hwyr. Os byddwn yn cyfarwyddo asiantau casglu dyledion, byddwn hefyd yn adennill eu ffioedd nhw, neu ffioedd y llys oddi wrthych chi, os aiff yr hawliad i’r Llys Sirol.

Diogelu Data

Diffinnir geiriau a ddangosir mewn LLYTHRENNAU ITALIG yn Neddf Diogelu Data 1998 (“Y Ddeddf”). Rydym yn parchu natur gyfrinachol yr holl wybodaeth a cheisiadau a roddir neu a wneir i ni pan fyddwch yn rhoi i ni ddata personol. Byddwn yn sicrhau y caiff y data a roddir eu dal yn ddiogel, yn gyfrinachol a’u prosesu at ddibenion cynnal ein gwasanaethau. Er mwyn cyflwyno’n gwasanaeth, efallai y bydd angen i ni drosglwyddo data o’r fath i drydydd parti, efallai y bydd y trydydd parti sy’n gweithredu ar eich rhan yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Dan y ddeddf, mae gennych hawl i wybod pa ddata sydd gennym arnoch a gellwch wneud cais i ni yn ysgrifenedig ac, wrth dalu ffi, gael copïau o’r data hynny.

Cyfnod Ailfeddwl

Gall Canslo Rheoliadau Contractau Defnyddwyr a wneir yng nghartref neu weithle’r defnyddiwr ac ati 2008, roi’r hawl i chi derfynu’r cytundeb hwn yn y cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod. Os ydych yn dymuno i’r cytundeb y mae’r hawl hon yn berthnasol iddo ddechrau cyn diwedd y cyfnod ailfeddwl, rhaid i chi lofnodi’r awdurdod ar y ffurflen a roddir i chi. Os byddwch yn arfer yr hawl i ganslo’r contract hwn yn ystod y cyfnod ailfeddwl, bydd gofyn i chi dalu swm rhesymol am nwyddau a gwasanaethau a gyflenwyd.

NODYN ARBENNIG: – Cynhelir llawer o angladdau o fewn y 14 diwrnod.

Byddwn yn gwneud rhai taliadau ar eich rhan e.e. taliadau’r amlosgfa , y capeli a’r Eglwysi ac ati. NID oes modd gostwng y costau hyn.

Terfynu

Gellir terfynu’r cytundeb hwn cyn i’r gwasanaethau gael eu rhoi: gennym ni os na fyddwch yn anrhydeddu’ch rhwymedigaethau dan y Telerau ac wrth i chi gyfathrebu â ni’n ysgrifenedig, gan derfynu’ch cyfarwyddiadau.

Os byddwn ni neu y byddwch chi yn terfynu’ch cyfarwyddiadau efallai y bydd gofyn i chi dalu swm rhesymol yn seiliedig ar y gwaith a wnaed hyd at yr amser y derbynnir eich gohebiaeth yn terfynu’r cytundeb, gan ddibynnu ar y rhesymau dros y terfynu.

Cwynion

Os ydych chi’n teimlo bod angen cwyno, rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig a chyfeirio’r gŵyn at Lynda Jones, yn y cyfeiriad uchod.

Safon gwasanaeth

Cawn ein rheoleiddio gan God Ymarfer NAFD, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni roi gwasanaeth o ansawdd uchel ym mhob ffordd. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y gwasanaeth a roddwn, cysylltwch â ni i ddechrau. Os nad yw hynny’n datrys y broblem, mae’r NAFD trwy FAS yn darparu gwasanaeth datrys anghydfod cost isel, yn ddewis arall yn lle achos cyfreithiol. Gallwch gysylltu â FAS yn 618 Warwick Road, Solihull, West Midlands, B91 1AA. Cewch eglurhad o’r hyn yw FAS a sut mae’n gweithio yn y daflen Your Right to Put it Right (ar gael yn y Saesneg yn unig), y gellir ei chael gennym ni.

Ni ellir gwarantu pob dyddiad ac amser a nodir ar yr amcangyfrif nes y caiff archebion terfynol eu gwneud a’u cadarnhau. Er y ceisiwn roi gwasanaeth prydlon ac effeithlon, gallai bod achosion neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth pan na allwn gyflawni’r rhwymedigaethau i chi ar y dyddiadau neu’r amser a nodwyd. Os dyma’r achos, byddwn yn ceisio cysylltu â chi ymlaen llaw gan ddefnyddio’r manylion a roddir a rhoi gwybod i chi am drefniadau gwahanol.

Cynlluniau ac Yswiriant Angladd a Delir  Ymlaen Llaw

Nid yw rhai cynlluniau neu yswiriant yn talu cost lawn angladdau y dyddiau hyn. Gall rhai cwmnïau hefyd dalu llai i’r trefnwyr angladdau na’r hyn y mae cleientiaid wedi’i dalu fel cyfraniadau. Bydd Jones Brothers Benllech yn rhoi i deuluoedd amcangyfrif ysgrifenedig, ac yn eu bilio’n uniongyrchol am y diffyg, os oes diffyg o gwbl, yng ngwerth cynllun neu yswiriant am gost yr angladd a’r gwasanaethau a roddwyd, a / neu am bethau ychwanegol uwchlaw’r cynllun neu’r yswiriant. Bydd rhai cynlluniau neu gwmnïau yswiriant yn mynnu nad yw trefnwyr angladdau yn datgelu i deuluoedd werth cynlluniau neu yswiriant y maent wedi cyfrannu iddynt. O’r herwydd, dylai teuluoedd eu hunain, geisio’r wybodaeth hon gan ddarparwyr cynllun neu gwmnïau yswiriant. Gyda’r cleientiaid sy’n cyfarwyddo y mae’r contract i ymgymryd â threfniadau’r angladd ac NID gyda darparwyr y cynllun angladd na chwmnïau yswiriant y telir iddynt ymlaen llaw.  Bydd y cwmnïau hyn yn gwneud cyfraniad at y taliadau ond efallai na fydd yn ddigon i dalu’r cyfanswm. O’r herwydd, efallai y bydd angen taliad ychwanegol ar wahân i’r hyn y mae’r cynlluniau talu ymlaen llaw yn ei roi.

Y person sy’n archebu’r angladd fydd yn gorfod cwrdd â diffyg ariannol sy’n ymwneud â chynllun angladd, os oes diffyg o gwbl.

Cytundeb

Bydd eich cyfarwyddiadau parhaus yn arwydd eich bod yn parhau i dderbyn y Telerau Busnes. Ni fydd eich cyfarwyddiadau yn creu unrhyw hawl y gellir ei gorfodi (yn rhinwedd Deddf Hawliau Contractau trydydd partïon 1999) gan unrhyw berson na chaiff ei nodi fel cleient i ni.

Ffrydio Byw

Bellach gellir ffrydio angladdau ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, ni all Jones Brothers Benllech na darparwyr gwasanaeth warantu ansawdd na chysylltedd band eang mewn lleoliadau, ac ni fyddant yn gyfrifol am fethiant oherwydd materion technegol.

Ar gyfer AMLOSGIAD byddwn yn rhoi i’r teulu ddolen i gysylltu ag OBITUS i weld y gwasanaeth ar ffrwd byw.

Ar gyfer CLADDEDIGAETH YN UNIG

https://www.facebook.com/Jones-Brothers-Benllech-Funeral-Directors-107791464340067/

ANGLADDAU LLE NAD OES NEB YN BRESENNOL

Diffiniad Angladd Lle nad oes neb yn Bresennol yw pan gaiff yr arch ei chludo naill ai i’r Amlosgfa neu i’r Fynwent, heb wasanaeth, gweinidog na galarwyr yn bresennol o gwbl.

Trefniadau a Deunyddiau a gyflenwir gennych chi neu gan ffynhonnell allanol (datganiad y CMA (yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd))

Mae’r holl eitemau a gyflenwir gennym yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n angenrheidiol i gynnal yr angladd. Noda CMA “y gallwch ofalu am rai trefniadau heb iddynt gymryd rhan neu gallwch ddefnyddio cyflenwr gwahanol”. Os felly, nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am safon yr eitemau na’u hansawdd, rhaid i chi dalu’r costau dan sylw yn uniongyrchol i’r cyflenwr. Rhaid i’r holl eitemau a geisir gan gyflenwyr eraill gydymffurfio â’r safonau gofynnol. Gallai’r rhain benderfynu a ellir cynnal yr angladd ai peidio. Rhaid i chi gyflwyno’n ysgrifenedig i ni unrhyw drefniadau a wneir gennych, ac eithrio arlwyo a blodau, bum diwrnod gwaith cyn cynnal yr angladd.

Rhestr Brisiau’r CMA – edrychwch ar ein rhestr brisiau bersonol ar gyfer cost unigol cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt, o bosibl, yn amlwg yn nogfen y CMA

Ni fyddai methu gorfodi rhai o’r telerau hyn, fel y’u drafftiwyd, yn cael effaith ar weithredu’r  telerau eraill hyn; ac os byddai modd eu gorfodi wrth eu diwygio, cânt eu trin yn unol â’r diwygiadau.

Nid oes unrhyw beth yn y Telerau hyn yn cyfyngu ar ein rhwymedigaethau am farwolaethau neu anaf personol.

Mae’r cytundeb hwn yn ddarostyngedig i Gyfraith Lloegr. Os penderfynwch ddechrau  achos cyfreithiol, gallwch wneud hynny mewn unrhyw lys a gymeradwyir gan y Deyrnas Unedig.

Pan Fo Rhywun yn Marw


Yn ystod cyfnod anodd iawn, gall deall y camau y mae’n angenrheidiol eu cymryd wedi profedigaeth fod yn llethol.

CYNLLUNIO'R GWASANAETH


Mae sawl opsiwn gwahanol wrth drefnu angladd a fydd yn gymorth i greu coffâd personol ac addas.

 

costau angladd


Mae gennym grynodeb clir o holl gostau gwasanaethau Jones Brothers i’ch helpu i gynllunio gwasanaeth angladd eich anwyliaid.

MANYLION CYSWLLT

Glanrafon, Benllech, Ynys Môn, LL74 8UF
Ffôn: 01248 853032 & 01248 853682

MANYLION CYSWLLT

R Bryn Jones & Lynda J. Jones
Cyfarwyddwyr Angladdau – Gwasanaeth 24 awr

Hawlfraint Jones Brothers 2021 | Dylunio KT