Pan Fo Rhywun yn Marw, beth ddylech chi ei Wneud?
Pan Fo Rhywun yn Marw
Yn ystod cyfnod anodd iawn, gall deall y camau y mae’n angenrheidiol eu cymryd wedi profedigaeth fod yn llethol. Yn y tudalennau hyn, rydym wedi amlinellu lle i ddechrau a rhestru’r ystyriaethau ymarferol. Rydym yn cynnig i chi gefnogaeth ac arweiniad llwyr trwy gydol y broses hon ac rydym ar gael i ateb eich cwestiynau ar unrhyw adeg.
Cofrestru Marwolaeth
Yn gyfreithiol, mae’n ofynnol cofrestru marwolaeth o fewn pum niwrnod calendr. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc ac mae’n berthnasol i bob marwolaeth lle nad yw’r crwner yn ymwneud â hi.
Mae modd i’r isod gofrestru’r farwolaeth:
Yn nhrefn blaenoriaeth:
- perthynas i’r ymadawedig oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
- perthynas i’r ymadawedig oedd wrth law yn ystod y salwch olaf
- perthynas i’r ymadawedig sy’n byw neu sydd yn yr ardal y digwyddodd y farwolaeth
Yna bydd y Cofrestrydd yn cyflwyno:
- Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth
- Tystysgrif Werdd sy’n ofynnol gennym ar gyfer Claddu neu Amlosgi cyn cynnal yr angladd
- Mae modd cael copïau a ardystiwyd o’r cofnod o farwolaeth am bris isel – efallai y bydd gofyn i chi gael y rhain at ddibenion cyfreithiol neu ariannol.
Gwybodaeth ychwanegol am y sawl sy’n rhoi gwybod am y farwolaeth ac sydd ei hangen i gofrestru’r farwolaeth:
- enw(au) cyntaf a chyfenw’r sawl sy’n rhoi gwybod
- ei gyfeiriad cyfredol
- perthynas yr unigolyn yma i’r ymadawedig
Efallai y bydd yn angenrheidiol trefnu apwyntiad gyda’r Cofrestrydd. Gwneir hyn trwy gysylltu â’r Cofrestrydd yn yr ardal lle bu farw’r person. Ar hyn o bryd, cynhelir apwyntiadau’r cofrestrydd dros y ffôn.
Beth sydd gofyn i’r Cofrestrydd ei wybod?
Bydd rhaid i’r Cofrestrydd gael y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth sydd i’w chael gan y Meddyg Teulu lleol os digwyddodd y farwolaeth gartref, neu o’r Ysbyty neu’r Hosbis os digwyddodd y farwolaeth i ffwrdd o gartref y teulu, a’r wybodaeth a ganlyn am yr ymadawedig:
Gwybodaeth am yr Ymadawedig
- Enw llawn a chyfenw’r ymadawedig neu os yw’r ymadawedig yn wraig ddibriod neu’n wraig weddw, y cyfenw pan ganed hi
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Dyddiad a man geni’r ymadawedig
- Galwedigaeth yr ymadawedig a chyda dynes sy’n briod neu’n wraig weddw, enw llawn a galwedigaeth ei gŵr
- Cyfeiriad arferol yr ymadawedig
- Os oedd yr ymadawedig yn dal yn briod, dyddiad geni’r gŵr neu’r wraig
- P’run a oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn neu fudd-daliadau o gronfeydd cyhoeddus
- Gyda phlentyn, enwau llawn y fam a’r tad a’u galwedigaeth a chyfeiriad llawn y plentyn
- Rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Dyma ddogfen yr ydym wedi’i pharatoi i’ch cynorthwyo gyda’r uchod CLICIWCH YMA
Os yw’r Crwner wedi ymwneud â’r farwolaeth, gallai’r broses gofrestru amrywio ond byddwn yn rhoi gwybod i chi’n unol â hynny.
Genedigaeth farw
Fel arfer, bydd angen cofrestru genedigaeth farw cyn pen 42 diwrnod a chyn pen tri mis ar yr hwyraf. Mewn sawl achos, mae modd gwneud hyn yn yr ysbyty neu yn y swyddfa gofrestru leol.
Yna bydd y Cofrestrydd yn cyflwyno:
- Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth
- Tystysgrif Werdd sy’n ofynnol gennym ar gyfer Claddu neu Amlosgi cyn cynnal yr angladd
- Mae modd cael copïau a ardystiwyd o’r cofnod o farwolaeth am bris bychan – efallai y bydd gofyn i chi gael y rhain at ddibenion cyfreithiol neu ariannol.
A fyddech cystal â ffonio’r cofrestrydd am apwyntiad yn y sir y digwyddodd y farwolaeth
Amseroedd agor: 9.30am hyd at ganol dydd a 2pm hyd at 4pm
Swyddfa Llangefni – Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfa Gofrestru, Canolfan Busnes Môn, Parc Busnes Bryn Cefni, Llangefni LL77 7XA. 01248 751925
Ar Agor: Dydd Llun – dydd Gwener 9.30 am – 4pm.
Swyddfa Caergybi – I archebu apwyntiad i gofrestru yng Nghanolfan J E O’Toole, Caergybi, cysylltwch â Swyddfa Llangefni ar 01248 751925.
Oriau Agor: Dydd Mercher: 9.30am – 4pm (Canolfan J E O’Toole)
Gwynedd – Siop Gwynedd Caernarfon, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE Ffôn – 01766 771000
Marwolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd –ym Morfa Clwyd, Marsh Road, Rhyl, LL18 2AF. Ffôn – 01745 366610
Swyddfa Gofrestru Llandudno, Neuadd y Dref, Stryd Lloyd, Llandudno, LL302UP. Ffôn – 01492576525
Dywedwch Wrthym Unwaith
Mae Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith (https://www.gov.uk/after-a-death/organisations-you-need-to-contact-and-tell-us-once) Llywodraeth Ei Mawrhydi yn fodd i chi roi gwybod un waith i’r rhan fwyaf o adrannau’r cyngor a’r llywodraeth am farwolaeth wedi i’r farwolaeth gael ei chofrestru.
Dweud wrth Eraill
Rydym yn cynnig cefnogaeth a chymorth llwyr pe dymunech drosglwyddo gwybodaeth am farwolaeth trwy roi neges yn y papurau newydd, ynghyd â chyfrif o fywyd unigolyn a manylion yr angladd. At hyn, mae modd argraffu’r neges a’i phostio at y rhai sydd yn llyfr cyfeiriadau’r ymadawedig a’i chyhoeddi mewn ysgrif goffa ar lein.
Pan fyddwch yn siarad â ni, gallwn roi gwybod i chi am hyn i gyd a byddwn yn hapus i’ch helpu i drefnu rhoi neges o ddiolch yn y papur newydd yn dilyn y gwasanaeth i ddiolch i’r rhai oedd yno ac am y rhoddion neu’r blodau a dderbyniwyd.
Pan Fo Rhywun yn Marw
Yn ystod cyfnod anodd iawn, gall deall y camau y mae’n angenrheidiol eu cymryd wedi profedigaeth fod yn llethol.
CYNLLUNIO'R GWASANAETH
Mae sawl opsiwn gwahanol wrth drefnu angladd a fydd yn gymorth i greu coffâd personol ac addas.
costau angladd
Mae gennym grynodeb clir o holl gostau gwasanaethau Jones Brothers i’ch helpu i gynllunio gwasanaeth angladd eich anwyliaid.
MANYLION CYSWLLT
Glanrafon, Benllech, Ynys Môn, LL74 8UF
Ffôn: 01248 853032 & 01248 853682
MANYLION CYSWLLT
R Bryn Jones & Lynda J. Jones
Cyfarwyddwyr Angladdau – Gwasanaeth 24 awr
Hawlfraint Jones Brothers 2021 | Dylunio KT